Dewis gwarchodwr plant
Read this page in English
Gall defnyddio gofal plant mewn amgylchedd cartref fod yn fwy
hyblyg na mathau eraill o ofal plant. Hefyd, gall eich plant
fwynhau profiadau dysgu bywyd go iawn megis coginio, siopa,
garddio, prydau bwyd a thripiau i’r parc a’r llyfrgell.
Gall gwarchodwyr plant wneud penderfyniadau ar y funud hefyd –
gan fanteisio ar ddiwrnod heulog neu eira annisgwyl fel cyfle
ardderchog i chwarae a dysgu yn yr awyr agored.
Mae gwarchodwyr plant mewn sefyllfa ddelfrydol i ofalu am blant
anabl, gan ystyried unrhyw ofynion arbennig. Ac os yw eich plentyn
yn teimlo’n flinedig neu’n anhwylus, gall orwedd yn belen ac
ymlacio.
Hefyd, gan fod gwarchodwyr plant yn cael eu cofrestru a’u
harolygu gan Ofsted yn Lloegr neu AGGCC yng Nghymru, gallwch fod yn
siŵr eu bod yn cael eu rheoleiddio.
Mae NCMA wedi cynhyrchu ffilm i ddangos manteision gofal plant
yn y cartref. Gallwch ei gwylio ar-lein yma.
Am wybodaeth am sut i ddod o hyd i
warchodwr plant lleol, ffoniwch eich Gwasanaeth Gwybodaeth i
Deuluoedd (FIS) lleol ar 0800 2346 346, neu ewch i
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD)