Bod yn warchodwr plant

Read this page in English
Ydych chi’n ystyried dod yn warchodwr plant
cofrestredig?
Mae llawer o resymau dros ystyried dod yn
warchodwr plant cofrestredig. Os hoffech gael gyrfa lawn boddhad,
os hoffech fod yn feistr arnoch chi eich hun a chynnal eich busnes
o’ch cartref, gallai gwarchod plant fod yn yrfa ddelfrydol i
chi.
Darllenwch rai hanesion ynglŷn â bod yn
warchodwyr plant yma.
Fel gwarchodwr plant cofrestredig,
byddwch:
-
Yn cynnig awyrgylch hapus a llawn
ysbrydoliaeth i’r plant y byddwch yn gofalu amdanynt.
-
Yn gweld y plant rydych yn gofalu amdanynt yn
tyfu ac yn datblygu.
-
Yn gweithio yn eich cartref eich hun, gan
ddewis eich oriau gwaith a’r gwasanaethau rydych yn eu darparu.
-
Yn cael gyrfa lle na fydd yr un ddau ddiwrnod
yn debyg i’w gilydd.
-
Yn gofalu am eich plant eich hun ar yr un pryd
os oes gennych deulu.
-
Yn cyfarfod â gwarchodwyr plant eraill yn eich
ardal ac yn dod i adnabod eich cymuned leol.
-
Yn ymuno â thua 67,000 o warchodwyr plant yng
Nghymru a Lloegr sy’n darparu gofal plant o safon.
Lawrlwythwch ein taflen, Sut i fod yn warchodwr
plant cofrestredig yng Nghymru(Cymraeg PDF – PDF,
161KB) yma.
Hefyd, pam na ddarllenwch chi am fod yn
nani?
Os nad ydych yn siŵr pa gofrestr gofal plant y
dylech fod arni, bydd yr arf ar-lein hwn yn helpu. Gallwch gael
gwybod mwy yn www.whichregister.org/home
(dolen allanol).
Mae gwefan newydd gan yr Adran Plant,
Ysgolion a Theuluoedd a 4Children yn cynnwys cymhwysiad defnyddiol
i’ch helpu i benderfynu pa gofrestr y dylech chi fod arni. I
gael gwybod mwy, ewch i www.whichregister.org.uk/home
(cyswllt allanol).